Rhif y ddeiseb: P-06-1392

Teitl y ddeiseb:  Diwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021

Testun y ddeiseb: Er gwaethaf y ffaith mai ychydig flynyddoedd yn unig yw hi ers i’r newidiadau gael eu cyflwyno, ac er gwaethaf yr addewidion o gymorth cynharach a gwell i blant a phobl ifanc ag ADY, mae mwy a mwy o ddisgyblion ADY yng Nghymru’n cael eu methu. Mae problemau hefyd o ran cysondeb ac atebolrwydd.

Mae ffocws mawr o hyd ar Ddarpariaethau Cyffredinol yn hytrach na dull cyfannol Cynlluniau Datblygu Unigol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer disgyblion ADY. Dylai disgyblion ag anableddau iechyd meddwl / corfforol gael mynediad cyfartal at gymorth ac addysg o safon.

Rhagor o fanylion:Gwrthodir cymorth i blant dan 5 oed ar sail y 'rhagdybiaeth' y byddant yn 'dal i fyny' erbyn iddynt gyrraedd oedran ysgol statudol. Pan gaiff Cynlluniau Datblygu Unigol eu llunio, mae ysgolion yn gallu "dehongli" yr hyn sydd ei angen heb atebolrwydd digonol na chysylltiad â therapyddion iechyd arbenigol am arweiniad. Galwn am barchu hawliau o dan Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anabledd drwy sicrhau:

§  Cod ymarfer cyffredinol i ddarparu addysg gynhwysol o safon i bob disgybl ADY.

§  Lleoliadau addysgol sy'n cynnig darpariaethau ag adnoddau priodol a staff hyfforddedig sy'n cyrraedd safon addysg gyda sicrwydd ansawdd i wneud y system yn deg ac yn ddibynadwy ac i’w galluogi i ateb y galw cynyddol.

§  Mae angen i addysg ac iechyd weithio'n agosach gyda'i gilydd.

§  Hyfforddiant arbenigol gorfodol a chymorth i athrawon a’u staff.

1.        Crynodeb

§  Mae’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd wrthi’n cael ei rhoi ar waith dros gyfnod o bedair blynedd (mis Medi 2021 i fis Awst 2025).

§  O dan y system newydd, mae gan ddysgwyr y cydnabyddir bod ganddynt ADY hawl i Gynllun Datblygu Unigol (CDU).

§  Mae’r Cod ADY, a gyhoeddodd gan Lywodraeth Cymru yn 2021, yn nodi ym mha ffyrdd y bydd ysgolion, colegau, awdurdodau lleol a byrddau iechyd gyflawni eu cyfrifoldebau o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

§  Yn ei hanfod, mae’r diffiniad o ADY yn debyg i’r diffiniad sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) o dan y fframwaith sy’n cael ei ddisodli gan y system newydd. Fodd bynnag, mae'r niferoedd y nodwyd bod ganddynt ADY wedi gostwng draean ers i'r system newydd ddechrau cael ei rhoi ar waith.

§  Mae hyn oherwydd newid tuag at ddiwallu anghenion lefel is trwy ddarpariaeth gyffredinol yn hytrach na Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol. Fodd bynnag, mae angen mwy na darpariaeth gyffredinol ar lawer o’r dysgwyr hyn o hyd, ac mae categori canolradd wedi dod i’r amlwg, sef dysgwyr sydd rhwng darpariaeth gyffredinol a darpariaeth ddysgu ychwanegol.

§  Mae Estyn yn adolygu gweithrediad y system ADY newydd – cyhoeddwyd y cyntaf o’i adroddiadau ym mis Medi 2023.

§  Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, drwy gydol tymor seneddol hwn (tan fis Mai 2026), yn craffu ar y broses o roi’r diwygiadau hyn ar waith.

§  Mae’r materion a nodwyd yn cynnwys amrywiaeth yn y ddealltwriaeth a’r defnydd o dermau fel darpariaeth ‘gyffredinol’, ‘wedi’i thargedu’ ac ‘arbenigol’, amwysedd o ran pwy sy’n gyfrifol am Gynlluniau Datblygu Unigol rhwng ysgolion ac awdurdodau lleol, a heriau parhaus i gydweithio rhwng meysydd llywodraeth leol ac iechyd.

2.     Cefndir y system ADY newydd

Mae Llywodraeth Cymru a'r sector addysg ar hyn o bryd yn gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. O dan y Ddeddf, mae’r system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) yn cael ei disodli gan system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd.

Mae’r system ADY newydd yn cael ei chyflwyno’n raddol dros gyfnod o bedair blynedd (o fis Medi 2021 tan fis Awst 2025). Mae'r holl ddysgwyr sydd newydd gael eu nodi ag ADY yn dod o dan y system newydd, gyda’r rhai sydd eisoes yn cael eu cefnogi ag AAA yn symud draw i’r system newydd mewn gwahanol flynyddoedd, yn dibynnu ar eu grŵp blwyddyn a lefel yr ymyrraeth (p'un a oes ganddynt ddatganiad o AAA ai peidio). Golyga hyn y bydd y system AAA a’r system ADY newydd yn gweithredu ochr yn ochr tan fis Awst 2025.

Gwnaeth Llywodraeth ddiwethaf Cymru ddisgrifio Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 fel alwampiad “llwyr” o system “nad yw bellach yn addas” at ei diben. Mae’r gwendidau yn y system bresennol, sydd wedi cael eu nodi mewn adolygiadau blaenorol ers blynyddoedd lawer, yn cynnwys teuluoedd sydd yn aml yn gorfod brwydro i sicrhau darpariaeth ar gyfer eu plentyn, cydweithio annigonol rhwng meysydd llywodraeth leol ac iechyd, ac anghysondebau yn y modd y mae anghenion gwahanol ddysgwyr yn cael eu diwallu.

2.1.          Diffinio Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae dysgwyr y bernir bod ganddynt ADY yn gymwys ar gyfer Cynllun Datblygu Unigol (CDU) statudol. Mae CDU yn disgrifio ADY person a'r Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol y mae anhawster dysgu neu anabledd y person yn galw amdani.

Mae’r diffiniad o ADY yn Neddf 2018 a’r diffiniad o AAA yn eu hanfod yr un fath, sef:

§  lle mae gan ddysgwr anhawster sylweddol fwy i ddysgu na’r mwyafrif o’r rhai eraill sydd o’r un oedran; neu

§  mae gan y dysgwr anabledd (at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010) sy’n ei atal neu’n ei lesteirio rhag defnyddio cyfleusterau addysg neu hyfforddiant a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill sydd o’r un oedran; ac

§  mae’r anhawster dysgu neu’r anabledd yn galw am Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol.

Mae pwynt olaf y diffiniad yn arwyddocaol oherwydd, os gellir mynd i’r afael ag anhawster dysgu trwy ddarpariaeth gyffredinol, neu drwy ddarpariaeth sydd ar gael fel arfer, ac nad oes angen Darpariaeth Dysgu Ychwanegol, yna nid ystyrir bod gan y dysgwr ADY.

2.2.        Canllawiau gwybodaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu cyfres o ddeunyddiau gwybodaeth ar y system ADY, gan gynnwys canllawiau ar gyfer plant, rhieni a'u hawliau, a dysgwyr ôl-16.

3.     Y Cod ADY

Fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf 2018, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol, a gymeradwywyd gan y Senedd ym mis Mawrth 2021. Mae’r Cod ADY yn amlinellu gofynion a chanllawiau ar gyfer ysgolion, sefydliadau addysg bellach, awdurdodau lleol, cyrff GIG ac eraill ar y system ADY.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru ymgynghori ar fersiwn ddrafft o'r Cod ADYyn ystod gaeaf 2018/19. Ymhlith y materion a godwyd roedd diffinio a nodi ADY, amserlenni ar gyfer cyflawni dyletswyddau, rolau gweithwyr proffesiynol amrywiol a threfniadau ar gyfer datrys anghytundeb, gwasanaethau eirioli a threfniadau apêl. Cyflwynodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ymateb ar ôl gweithio gyda rhanddeiliaid.

4.     Newid tuag at ddarpariaeth gyffredinol

Mae'n ymddangos bod newid tuag at ddarpariaeth gyffredinol wedi digwydd o ran diwallu anghenion plant, yn lle’r sefyllfa flaenorol o efallai gydnabod yr anghenion hynny fel AAA a threfnu darpariaeth addysg arbennig eu cyfer. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod y diffiniad o ADY yn ei hanfod yr un fath â’r diffiniad o AAA.

Mae nifer y dysgwyr y nodwyd bod ganddynt AAA neu ADY wedi gostwng draean ers dechrau rhoi’r system newydd ar waith - o 93,000 yn 2020/21 (20% o’r holl ddisgyblion) i 63,000 (13% o’r holl ddisgyblion) yn 2022/23. Y rheswm am yr hyn yw gostyngiad yn nifer y disgyblion sydd â lefel gymharol isel o AAA/ADY, sy'n dangos nad yw'n wir i ddweud nad yw dysgwyr ag anghenion difrifol neu gymhleth bellach yn cael eu cydnabod fel rhai sydd ag ADY/AAA.

Fodd bynnag, ar gyfer llawer o ddysgwyr a fyddai wedi cael eu hystyried yn ddysgwyr ag AAA/ADY, ni chafodd y newid oddi wrth Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol tuag at ddarpariaeth gyffredinol ei ragweld yn gyhoeddus gan Lywodraeth Cymru. Yn ystod y broses o basio'r Bil ADY yn 2017, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r rhai sy'n cael eu cwmpasu o dan y system newydd yn fras yr un rhai ag o'r blaen ac, wrth wneud rheoliadau dilynol yn 2021, rhagwelodd y byddai “tua 110,000 CDU oedran ysgol”, sef yr un nifer o ddisgyblion ag AAA bryd hynny.

Yn ei datganiad ar ystadegau’r cyfrifiad ysgolion ac mewn llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig sawl esboniad am y gostyngiad.

§  Mae gormod o achosion o AAA wedi cael eu nodi yn hanesyddol, yn rhannol oherwydd cynnwys categori anhawster dysgu nad yw, wrth edrych yn ôl, yn gyfystyr ag AAA/ADY mewn gwirionedd;

§  Mae’r cydlynwyr ADY statudol newydd wedi adolygu cofrestrau AAA eu hysgolion ac wedi dileu rhai dysgwyr y mae angen y lefel isaf o gymorth arnynt.

§  Lluniwyd y ddeddfwriaeth ADY ddegawd yn ôl ac mae dull mwy cynhwysol y Cwricwlwm newydd i Gymru yn golygu bod modd defnyddio darpariaeth gyffredinol, gydag addysgu gwahaniaethol ac arfer addysg gynhwysol, i ddiwallu anghenion rhai dysgwyr yr oedd angen Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol arnynt yn flaenorol.

Mae dileu rhai disgyblion o'r gofrestr AAA/ADY yn dod â chyfran yr holl ddisgyblion y nodwyd bod ganddynt AAA/ADY i lawr o 20% yn 2020/21 i 13% yn 2022/23.

Cyhoeddodd Ymchwil y Senedd erthygl ym mis Medi 2022, Nodi anghenion dysgu ychwanegol: A yw’r bar wedi’i godi neu a oedd y bar yn rhy isel cyn hynny?

5.    Adroddiad Estyn ar weithredu diwygio ADY

Ym mis Medi, yn unol â chylch gorchwyl a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, fe wnaeth yr arolygiaeth addysg, Estyn, gyhoeddi’r cyntaf o ddau adroddiad o leiaf. Ymhlith canfyddiadau Estyn, roedd diffyg cysondeb yn nealltwriaeth a chymhwysiad pobl o dermau fel 'cyffredinol', 'wedi’i thargedu' ac 'arbenigol', a sut mae'r rhain yn berthnasol i Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol. Nododd Estyn hefyd nad yw’r termau hyn o reidrwydd yn ymddangos yn y Cod ADY.

Argymhellodd Estyn fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan bob lleoliad ddealltwriaeth glir o’r diffiniadau cyfreithiol yn Neddf 2018 a’r Cod ADY, a bod y Llywodraeth yn darparu enghreifftiau ymarferol i gynorthwyo dealltwriaeth.

O dan y Ddeddf a’r Cod, gall ysgol gyfeirio achos at awdurdod lleol lle:

§  y gallai anghenion y dysgwr alw am Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol na fyddai'n rhesymol i'r ysgol ei sicrhau, neu

§  na all corff llywodraethu bennu graddau neu natur yr anghenion hynny yn ddigonol, neu na all benderfynu'n ddigonol ar Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol ar eu cyfer.

Canfu Estyn fod diffyg eglurder a thryloywder ynghylch pa Gynlluniau Datblygu Unigol a fydd yn cael eu cynnal gan awdurdodau lleol, yn hytrach na chan ysgolion. Yn y Cod ADY, disgwylir i awdurdodau lleol gyhoeddi cyfres o egwyddorion yn nodi sut y byddant yn cymhwyso'r paramedrau cyfreithiol o ran pwy ddylai fod yn gyfrifol. Fodd bynnag, nid yw pob un wedi gwneud hyn ac, ym mis Awst, fe ddywedodd y Gweinidog y byddai'n ysgrifennu at awdurdodau lleol i'w hatgoffa o'u cyfrifoldebau o dan y Cod.

Bu cynnydd yn y cyllid i gefnogi gweithredu’r system ADY newydd, ond canfu Estyn fod dulliau o arfarnu effaith y cyllid hwn ar ddisgyblion ag ADY yn wan. Cyhoeddodd hefyd i arweinwyr ysgolion ddweud nad oes ganddynt ddealltwriaeth ddigon clir o sut caiff penderfyniadau am gyllid eu gwneud gan eu hawdurdodau lleol.

Gwnaeth y Gweinidog ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Tachwedd yn nodi sut roedd Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r materion a godwyd yn adroddiad Estyn.

6.    Gwaith craffu’r Senedd

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn craffu ar y broses o weithredu‘r diwygiadau ADY (ynghyd â diwygiadau mawr eraill i’r cwricwlwm) yn ystod y Senedd hon. Mae'n gwneud hyn drwy gyfres o 'gyfnodau monitro' – cynhaliwyd dau o'r rhain hyd yma.

Gellir gweld llythyrau’r Pwyllgor at Lywodraeth Cymru a chynrychiolwyr partneriaid cyflawni, megis Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chydffederasiwn y GIG, ar wefan y Pwyllgor. Er enghraifft, roedd y llythyrau at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r GIG yn canolbwyntio ar gydweithio rhwng meysydd llywodraeth leol ac iechyd, sef un o’r materion a godwyd gan y ddeiseb hon.

Hefyd, mewn sesiwn graffu ar 10 Mai 2023, gofynnodd y Pwyllgor i’r Gweinidog yn benodol a fyddai’n ystyried cyhoeddi canllawiau ar wahân ar sut y dylai ysgolion gefnogi’r categori sy’n dod i’r amlwg, sef disgyblion sydd ag anghenion sy’n fwy nag anghenion eraill ond sydd ddim yn cyrraedd y trothwy ar gyfer ADY (h.y. mae angen mwy na darpariaeth gyffredinol arnynt ond nid cymaint â Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol), o ystyried na ragwelwyd y sefyllfa hon wrth i'r Cod ADY gael ei baratoi. Dywedodd y Gweinidog byddai'n aros am adroddiad Estyn ac yn parhau i fonitro’r mater, ond nad oedd yn ymddangos i Lywodraeth Cymru y byddai'n angenrheidiol.

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi dechrau trydydd ‘cyfnod monitro’, gan graffu ar weithrediad y system ADY newydd – cymerodd dystiolaeth gan Estyn ar 21 Chwefror 2024. Yn ôl Estyn, mae ysgolion yn diwallu anghenion disgyblion ond mae 'amwysedd' rhwng cymorth cyffredinol ac ADY a nodir yn ffurfiol.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.